Bydd llinell archebu ein Swyddfa Docynnau ar gau rhwng dydd Mawrth, 24 Rhagfyr tan ddydd Iau, 2 Ionawr ond bydd modd ichi barhau i brynu tocynnau ar-lein yn rct-theatres.co.uk/cy/.

Rydyn ni'n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch chi.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Fireman Sam : The Great Camping Adventure

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 29 Mai 2025 Celfyddydau: Achlysuron i Blant
Fireman Sam : The Great Camping Adventure

Perfformiadau

  • Dydd Iau 29 Mai 2025 Iau 29 Mai 2025 29 Mai 25 12:00yh 3:30yh

Mae Norman eisiau mynd ar antur i greu argraff ar ei ffrindiau, felly pan fydd dau fforiwr anifeiliaid enwog yn cyrraedd Pontypandy, mae'n penderfynu eu dilyn nhw i'r mynyddoedd.

Ond, pan mae Norman yn dod o hyd i wiwer goch prin, mae un o'r fforwyr yn penderfynu cymryd y clod a gadael Norman ar ei ben ei hun mewn ogof.

Mae hi'n amser i Sam Tân achub y dydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn ddiogel ar eu hantur gwersylla!

Ymunwch â Sam, Ellie, Elvis, Swyddog Gorsaf Steele a Norman yn y premier hwn yn y DU, wrth i chi ddod yn Arloeswr Pontypandy ac archwilio'r mynyddoedd.

Gyda injans tân, hofrenyddion a chaneuon newydd sbon dyma un antur na ddylid ei cholli!

Hyd: 1 awr

Canllaw Oedran: Yn addas i bob oed

Does dim hawl mynd â phramiau na seddi ceir i’r awditoriwm, ond byddwn ni'n gwneud ein gorau i ddod o hyd i le diogel i’w storio i chi.

Rydyn ni'n gwybod bod plant bach iawn ei chael hi'n anodd gweld yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan, felly mae gyda ni nifer cyfyngedig o seddi plastig uwch ar gael yn y cyntedd. Mae'r seddi am ddim ond dim ond hyn a hyn sydd ar gael. Y cyntaf i'r felyn fydd hi. Gofynnwch i aelod o staff os hoffech ddefnyddio un ar gyfer eich plentyn.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.