Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Fifty Shades Freed (18)

Canolfan: Y Colisëwm Celfyddydau: Sinema
Fifty Shades Freed (18)

Mae Christian ac Ana, sy newydd briodi, yn gwneud y mwyaf o'u perthynas anhygoel ac yn byw fel pobl fonheddig. Maen nhw'n sicr bod unigolion drwg o'u gorffennol yn hen hanes.

Wrth iddi fabwysiadu'i rôl newydd yn Mrs Grey, ac wrth iddo ddechrau byw bywyd mwy sefydlog, mae rhywbeth neu rywun yn dod i'r fei i fygwth eu hapusrwydd.