Exodus


Gan Rachael Boulton
Theatr Motherlode
De Cymru. Y noson y caeodd y ffatri olaf.
Mae pedwar cymydog yn adeiladu awyren ar randir, ac yn tanio i lawr y stryd fawr, heibio'r cigydd, heibio'r tŷ cyrri, a thros y capel, i chwilio am fywyd heb wleidyddiaeth a diflastod dyddiol.
Mae’r ddrama ddoniol a chynnes hon, gyda cherddoriaeth wreiddiol, byw a delweddau rhyfeddol yn antur newydd o’r cymoedd, sy’n gwneud i unrhywbeth ymddangos yn bosib.
"Comic and celebratory, melodic and mournful, it's an elegy for a place that's not dead yet!" - Adolygiad gan y New York Times ar gyfer Motherlode.
Cyd-gynhyrchiad gyda Theatrau RCT
Mewn cydweithrediad â Creu Cymru
Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Bristol Old Vic a Chapter