Bydd llinell archebu ein Swyddfa Docynnau ar gau rhwng dydd Mawrth, 24 Rhagfyr tan ddydd Iau, 2 Ionawr ond bydd modd ichi barhau i brynu tocynnau ar-lein yn rct-theatres.co.uk/cy/.

Rydyn ni'n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch chi.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Emma Kenny: The Serial Killer Next Door

Canolfan: Y Colisëwm Celfyddydau: Gair ar lafar
Emma Kenny: The Serial Killer Next Door

Dyma gyfle i wrando ar un o Therapyddion Seicolegol a sylwebwyr troseddol mwyaf nodedig y DU, Emma Kenny yn trafod beth sy'n creu llofrudd cyfresol.

Bydd hi'n mynd â chi ar daith gan fwrw golwg ar pa ffactorau sy'n arwain at lofruddio cyfresol, gan drafod llofruddion megis Ted Bundy, John Wayne Gacy, Jeffrey Dahmer, a John Paul Knowles. Beth sy'n creu llofrudd cyfresol? A fyddai unrhyw beth wedi gallu atal eu potensial yn cael ei sbarduno, neu oedden nhw wedi'u geni i ladd?

Mae Emma'n arbenigo mewn dioddefwreg, ond mae hi'n fwyaf adnabyddus am gyflwyno rhaglenni'n ymwneud â throsedd gan gynnwys Britain’s Darkest Taboos, Lady Killers, a The Killer in My Family.

Mae Emma wedi cyflwyno dros 70 o raglenni trosedd gan ddadansoddi rhai o'r troseddau mwyaf erchyll yn y DU a'r Unol Daleithiau, ac ystyried beth sy'n gwneud llofrudd, a pham bod rhai pobl yn cael eu geni i deuluoedd sy'n ymddangos yn normal, yn cael eu magu heb ofn a chamdriniaeth, ond yn dilyn llwybr llofruddiol.

Rydyn ni'n argymell yr achlysur yma ar gyfer pobl 14 oed a hŷn. Rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.