Ed Byrne: Spoiler alert
Comedi
“I’ll Millennial You in a Minute” oedd teitl y sioe i fod ar y dechrau, ond mynnai'r hyrwyddwr y byddai pawb yn drysu. Fy llif gadwyn i yw honna yn y llun, gyda llaw.
Ydy bywyd mor wael â hynny? Oes gwir reswm i ni gonan gymaint? A ydym yn ffromi â dicter cyfiawn mewn oes mor ddreng? Neu ife ciwed o gryts crintachlyd yn conan ydan ni? Mewn gair, ydym ni wedi'n sbwylio? Dewch i weld Byrne yn cymryd y cwestiwn, ei droi ben i waered, a'i siglo nes i'r darnau doniol dorri'n rhydd. Dewch i'ch sbwylio'ch hun!
‘Comedy’s Holy Grail. Go See!’ Sunday Times
Mae Ed yn feistr ar bigo'r elfennau chwerthinllyd mewn bywyd bob dydd. Cafodd gredydau di-ri ar y teledu (os ydych chi'n methu rhifo, hynny yw). Dyma rai: Mock The Week, Have I Got News For You, The Graham Norton Show, Live At The Apollo, The One Show, Comic Relief Bake Off 2015, The World’s Most Dangerous Roads ac, yn ddiweddar, yng nghwmni Dara Ó Briain, Dara and Ed’s Road to Mandalay yn dilyn o'u camp Big Adventure ar sianel BBC2.
Oed 16+. Mae’r sioe yn cynnwys peth iaith gref a themâu i oedolion.