Cliciwch yma i ddarllen y newyddion diweddaraf am Covid-19.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg

Dream

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 4 Hydref 2022 Celfyddydau: Dawnsio
Dream
Ballet Cymru dancer
Ballet Cymru group web image

Perfformiadau

  • Dydd Mawrth 4 Hydref 2022 7:30pm

Mae DREAM yn ballet llawn newydd, bywiog, ffres ac arloesol sy’n seiliedig ar waith Shakespeare, A Midsummer Night’s Dream. Gan weithio gyda’r offerynnwr a’r cyfansoddwr sydd wedi ennill sawl gwobr, Frank Moon, mae Ballet Cymru wedi creu byd hudolus o dylwyth teg, cariadon a hudoliaeth swynol sy’n gwyro rhywedd.

Mae DREAM yn ailddehongliad disglair ar ffurf ballet ar gyfer yr 21ain Ganrif, ac yn cynnwys dawnswyr arloesol Ballet Cymru, tafluniad fideo syfrdanol, a choreograffi arloesol gan y Cyfarwyddwyr Artistig Darius James OBE ac Amy Doughty.

Coreograffi a dehongliad: Amy Doughty a Darius James OBE

Sgôr wreiddiol: Frank Moon

Lluniau cyhoeddusrwydd: Siân Trenberth Photography

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.