Mae yna gynnwrf i fyny grisiau a lawr llawr yn Downton Abbey wrth i'r preswylwyr baratoi am ymweliad gan y Teulu Brenhinol. Mae'r ffilm wedi'i seilio ar y rhaglen deledu boblogaidd ac yn cynnwys nifer o'r cast gwreiddiol, fel y Fonhesig Maggie Smith, Michelle Dockery a Hugh Bonneville. Mae'r ffilm yn dilyn hanes dramatig teulu aristocrataidd Crawley. Dyma ffilm na ddylech chi ei cholli.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.