O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Don't Dribble On The Dragon

Canolfan: Y Colisëwm Celfyddydau: Achlysuron i Blant
Don't Dribble On The Dragon

Gan Steven Lee

Cyfarwyddwr Nick Lane

Dylunydd Mike Lees

Mae gan fy mrawd ddraig ac mae'n ei chadw'n gudd

Mewn blwch o dan ei sanau.

Mae'n ei chuddio oddi wrthyf i...

Plentyn bach yw Tom a chanddo frawd mawr cŵl, draig gudd... a phroblem driblo nad oes dim darfod arni! Pan fo glafoerio di-ddiwedd Tom yn bygwth chwalu cyfeillgarwch y ddau frawd, a all hud anhygoel y ddraig eu tynnu nôl at ei gilydd, neu a fydd yn gwneud pethau'n waeth.

Yn seiliedig ar lyfr newydd bendigedig Steven Lee, ac â hud a lledrith wedi ei ddylunio gan y diweddar Paul Daniels, dyma antur gerddorol fendigedig am dyfu i fyny a phwysigrwydd y teulu. Sioe berffaith i oedolion serchog a rhai bach tyner hefyd.

Ac ar ben hyn oll, bydd Steven wrth law i lofnodi copïau o Don't Dribble On The Dragon. Cewch ddod â'ch copi eich hun gyda chi neu brynu copi yn y theatr ar ôl y sioe.

“Stori galonnog llawn cariad, chwerthin a chaneuon braf, adloniant perffaith i oedolion a phlant fel ei gilydd - ac yn llawn dop o hwyl!” – The Guide

I oedolion a phlantos o bob oedran (dros 2 oed)

Mae'r sioe yn para tua 60 munud.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.