Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

English

Detective Pikachu (PG)

Sinema
Detective Pikachu (PG)

Dydd Gwener 16 Awst - Dydd Sadwrn 17 Awst

Y Parc a'r Dâr

Tocynnau - £6.15
Gostyngiadau - £3.70
Ticyn Teulu - £14.80

Codir ffi bwcio o £2.50 am drafodion ar-lein

Fel arfer, dydy Pokémon ddim yn gallu cyfathrebu â phobl - ond pan mae Ditectif Pikachu yn darganfod bod Tim Goodman yn gallu ei ddeall, mae'n awyddus i'r ddau fod yn bartneriaid. Mae tad Tim ar goll, ac mae'r pâr yn dod at ei gilydd i ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd iddo, yn ogystal â dod o hyd i gynllwyn a allai fygwth bydysawd cyfan Pokémon.

Mae Justice Smith, Ryan Reynolds a Kathryn Newton yn serennu yn y ffilm gomedi yma i'r holl deulu, yn seiliedig ar fyd poblogaidd Pokémon.

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 16 Awst 2019 7:00pm
  • Dydd Sadwrn 17 Awst 2019 2:30pm
Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres
ident/coliseumCreated with sketchtool.ident/parkdareCreated with sketchtool.

Croeso!

Ble clywsoch chi am Theatrau Rhondda Cynon Taf?

Diolch

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o'n theatrau yn fuan.

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.