O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Dau

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Drama , Achlysuron Cymraeg
Dau

Yn Y Lolfa

Gan Jim Cartwright

Wedi'i addasu a'i gyfarwyddo Gareth John Bale.

Cynhyrchiad ar y cyd gan Gareth John Bale a Theatrau RhCT gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r ddrama wedi'i berfformio yn y Gymraeg.

Dau berson, dyn a gwraig, landlord a landlordes. Yn gweini diodydd fesul dau i'r parau yn eu tafarn. Mae gan bob un stori i'w hadrodd; weithiau'n rhyfedd, weithiau'n drist - ond byddwch chi'n uniaethu â phob un.

Ymhlith y gweini diodydd, rydyn ni' cwrdd â Moth, dyn sydd wedi'i ddenu at bob fflam, ond eto'n hollol ddibynnol ar Maudie; dau bensiynwr oedrannus; Mrs Iger, sy'n dwlu ar ddynion mawr; Roy sydd â rheolaeth lwyr dros Lesley; a dau o selog Elvis yn gwylio'r teledu.

Yr un mor ddoniol ag yw'n galonogol - mae'r ddrama graff yma'n mynd ar hyd llwybr troellog cynn cyrraedd uchafbwynt pwerus ac annisgwyl.

Oed 12+

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.