Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

A Festival Of Remembrance

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Cyngerdd
A Festival Of Remembrance

Mae'r gyngerdd yma'n coffáu ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau wrth frwydro, ac mae'n brofiad difyr ac emosiynol.

Bydd yn cynnwys Band Milwrol Tywysog Cymru, Côr Meibion Cambrian, cymdeithas Selsig a chorau plant ac oedolion 'One Voice'.