Sioe ballet ddisglair a chyfoes wedi'i seilio ar y chwedl dragwyddol.
Mae Ballet Cymru yn falch o'i gynyrchiadau arloesol, a dydy Cinderella ddim yn eithriad i hynny. Jack White sydd wedi cyfansoddi sgôr newydd ardderchog ar gyfer y sioe, sy'n cynnwys elfennau syrcas anhygoel gan gwmni syrcas Citrus Arts, ynghyd â'r dawnsio clasurol o'r radd flaenaf. Cewch chi'ch cipio ar daith i fyd rhyfeddol a hudol.
Enillydd y Dyfarniadau Cymru Greadigol, Darius James, sydd wedi trefnu'r goreograffiaeth, a daw'r gwisgoedd o law'r dylunydd o Gymru, Steve Denton. Daw'r chwedl serch dragwyddol yn fyw gan ddefnyddio dull unigryw'r cwmni o gymysgu techneg glasurol ac adrodd straeon.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.