Yn ystod cyfnod y chwyldro rhywiol a'r cynnydd ym mhoblogrwydd mudiadau menywod, cafodd y gêm denis yn 1973 rhwng Billie Jean King (Emma Stone) a Bobby Riggs (Steve Carell) ei galw'n 'BATTLE OF THE SEXES'. Hwn oedd un o'r achlysuron chwaraeon mwyaf poblogaidd erioed i'w ddarlledu ar y teledu. Wrth i'r gystadleuaeth rhwng King a Riggs fynd yn fwy a mwy ffyrnig, roedd y ddau yn wynebu brwydrau personol a chymhleth oddi ar y cwrt tenis. Roedd King, a hithau'n fenyw breifat iawn oedd yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn ei chael hi'n anodd derbyn ei rhywioldeb. Roedd Riggs, un o'r 'gwŷr enwog' cyntaf yng ngwir ystyr y gair, yn gaeth i gamblo.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.