Mae'r sioe yma'n dathlu ei gyrfa arbennig ac yn cynnwys cerddoriaeth amrywiol megis caneuon traddodiadol a rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Barbara gan gynnwys Another Suitcase in Another Hall, The Caravan Song ac I Know Him So Well.
Mae'r gwestai arbennig, Anthony Toner, yn cael ei ddisgrifio fel 'John Prine yn cwrdd â James Taylor mewn siop lyfrau ail law'. Mae ei sgiliau gitâr gwych, ei alawon bachog a'i eiriau cofiadwy wedi dal sylw cynulleidfaoedd sy'n parhau i dyfu.
"You want to bottle her voice - it's perfect” Sir George Martin
"I love Barbara Dickson. From the very first time I heard her, her voice just nailed me to the wall! Her voice has that kind of smoothness... she's just a one off." Billy Connolly
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.