O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.
Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.
Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.
Paratowch i glywed Aled Jones fel nad ydych chi erioed wedi'i glywed o'r blaen.
Dyma’r bachgen a swynodd y byd â'i lais soprano angylaidd. Ac yntau wedi gwerthu dros saith miliwn o albymau, Aled oedd un o'r sêr clasurol gwreiddiol. Daeth Aled yn enw cyfarwydd ar ôl rhyddhau ei recordiad ef o Walking in the Air, o’r ffilm animeiddiedig The Snowman, ac mae wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau'r Nadolig y genedl.
Mae Aled yr un mor naturiol yn perfformio ar y llwyfan clasurol ag y mae'n serennu mewn cynyrchiadau theatr gerdd yn West End Llundain. Mae ei gredydau’n cynnwys prif rannau yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Chitty Chitty Bang Bang a White Christmas gan Irving Berlin.
Mae galw mawr amdano’n fyd-eang ac mae wedi perfformio yn rhai o leoliadau mwyaf eiconig y byd, o'r Royal Albert Hall yn Llundain i'r Tŷ Opera Sydney.
Ac yntau'n ffefryn ymhlith y Teulu Brenhinol, rhoddodd berfformiad preifat i'r Brenin Charles III ym Mhalas Kensington hyd yn oed. Mae’n ddarlledwr teledu a chyflwynydd radio sydd wedi ennill gwobrau ac mae wedi cyfweld cannoedd o sêr enwog dros y blynyddoedd. Mae’n arwain Songs of Praise y BBC a’n cyflwyno ei sioeau ei hun ar fore Sadwrn a Sul ar Classic FM.
Nawr, ar ôl 40 mlynedd yn y diwydiant, mae'n edrych yn ôl ar yrfa ryfeddol gyda sioe un dyn, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth nas clywyd erioed o'r blaen, straeon o'r degawdau ac am y tro cyntaf, ei stori wedi'i hadrodd yn ei eiriau ei hun. Felly, mae'n amser ‘Full Circle’.
Tocynnau VIP
£70 Tocyn Cwrdd a Chyfarch. Mae'r pecyn yn cynnwys y seddi gorau, bag nwyddau a chyfle i gwrdd a sgwrsio gyda Aled cyn y sioe. Dewch erbyn 5.45pm ar gyfer y sesiwn Cwrdd a Chlebran am 6pm.
£50 - Tocyn VIP. Mae'r pecyn yn cynnwys y seddi gorau a bag nwyddau.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.