O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Aladdin : Nadolig 2024

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 29 Tachwedd - 8 Rhagfyr 2024 Celfyddydau: Panto
Aladdin : Nadolig 2024

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024 Gwe 29 Tach 2024 29 Tach 24 7:00pm
  • Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024 Sad 30 Tach 2024 30 Tach 24 2:00pm
  • Dydd Sul 1 Rhagfyr 2024 Sul 1 Rhag 2024 1 Rhag 24 2:00pm
  • Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024 Sad 7 Rhag 2024 7 Rhag 24 2:00pm AD R 6:00pm
  • Dydd Sul 8 Rhagfyr 2024 Sul 8 Rhag 2024 8 Rhag 24 2:00pm

Yma i wireddu'ch breuddwydion!

Paratowch ar gyfer taith orau’ch bywyd wrth i Aladdin eich tywys ar ei garped hudol i Old Peking. Byddwch chi'n cwrdd â'r Weddw Twanky, Wishee Washee ac Abanazer drygionus mewn perfformiad sy'n llawn gwefr, cyffro a llond bol o chwerthin!

Mae gwisgoedd hyfryd, golygfeydd trawiadol a chast gwych sy'n creu panto traddodiadol godidog o fywiog i'r teulu cyfan.

Mae'n antur llawn comedi, effeithiau arbennig hudolus a digonedd o anhrefn y panto. Dyma bleser Nadoligaidd perffaith i'r teulu cyfan ei fwynhau!

Wedi’i hysgrifennau a’i chyfarwyddo gan Richard Tunley.


Perfformiad mewn amgylchedd ar gyfer ymlacio ar Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2.00pm. Ar gyfer plant ifainc ac unrhyw un a fyddai'n gwerthfawrogi awyrgylch mwy hyblyg, hamddenol i fwynhau'r sioe. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chroeso i unrhyw un adael yr awditoriwm a dod yn ôl yn ystod y perfformiad. Bydd drysau'r theatr yn agor 30 munud cyn y sioe er mwyn caniatáu amser i ymgyfarwyddo â’r awditoriwm.


Perfformiad Disgrifiad Sain ar Dydd Sadwrn 7 Rhafyr 2.00pm. Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau os oes angen clustffonnau arnoch chi.

Mae perfformiadau ar gyfer ysgolion ar gael ar Dydd Iau 28 a Dydd Gwener 29 Tachwedd, Dydd Mawrth 3 - Dydd Gwener 6 Rhagfyr. Mae'r rhain ar gael i grwpiau ysgol yn unig. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu anfonwch e-bost at swyddfadocynnau@rctcbc.gov.uk i gadw lle ar gyfer eich ysgol. Mae lle am ddim i un athro am bob 10 tocyn rydych chi'n eu prynu.


Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.