Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 1.00pm–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

A VISION OF ELVIS

The Award-winning Elvis Presley Spectacular

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 31 Mai 2025 Celfyddydau: Cerddoriaeth
A VISION OF ELVIS

Perfformiadau

  • Dydd Sadwrn 31 Mai 2025 Sad 31 Mai 2025 31 Mai 25 7:30yh

Gwisgwch eich esgidiau swêd glas a dewch i ddathlu cerddoriaeth y Brenin Roc a Rôl gydag Elvis gorau'r DU – Rob Kingsley – a’i gast talentog. Bydd un o gyngherddau byw Elvis Presley yn cael ei ail-greu, gan fynd â chi ar daith glyweledol epig trwy amser fel na welsoch chi erioed o'r blaen.

Gan gynnwys y caneuon poblogaidd Stuck on You – It's Now or Never – Return to Sender – GI Blues – Suspicious Minds – The Wonder Of You – American Trilogy a llawer yn rhagor.

Cyn gynted ag y bydd y sioe yn dechrau cewch eich tywys ar daith llawn emosiwn, gan gael profiad gwirioneddol ddilys ac anhygoel o gerddoriaeth Elvis!