Bydd y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth 11.00am–2.00pm.

O ddydd Iau 12 Medi fydd y Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 2.00pm–5.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddynt sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

40TH ANNIVERSARY BLACK BALL FINAL

Gyda Steve Davis a Dennis Taylor yng nghwmni'r cyflwynydd a'r dyfarnwr John Virgo

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 15 Hydref 2025 Celfyddydau: Amrywiaeth/Adloniant Ysgafn
40TH ANNIVERSARY BLACK BALL FINAL

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 15 Hydref 2025 Mer 15 Hyd 2025 15 Hyd 25 7:30yh

Ymunwch â Steve Davis a Dennis Taylor wrth iddyn nhw ail-greu’r gêm gyffrous a gipiodd sylw pobl ledled Prydain – Rownd Derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd 1985. Roedd 18.5miliwn o bobl wedi gwylio'r gêm bythgofiadwy yma, gan dorri'r record ar gyfer nifer y gwylwyr. Dyma’ch cyfle chi i weld yr ail gêm gyda sêr y byd snwcer wrth i ni ail-greu ffrâm olaf y noson arbennig honno.

John Virgo fydd yn cyflwyno ac yn gyfrifol am ddyfarnu yn ystod yr achlysur, felly byddwch chi'n sicr o fwynhau ei ddynwarediadau doniol.

Mae hon yn noson wych i gefnogwyr snwcer a bydd hefyd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb. Felly, os ydych chi'n awyddus i ofyn cwestiwn i'r chwaraewyr enwog yma - dyma'ch cyfle!

Yn addas i bobl 14 oed neu'n hŷn. Mae'n bosibl y bydd y sioe yn cynnwys iaith gref a straeon o natur arbennig.

Tocynnau Cwrdd a Chyfarch VIP - £70.00 (nifer cyfyngedig)

Mae'r pecyn yn cynnwys mynediad cynnar i'r theatr, cortyn gwddf VIP, cyfle i gwrdd â'r chwaraewyr cyn y sioe, yn ogystal â chyfle i gael llun proffesiynol gyda'r chwaraewyr i'w gadw, bydd fersiwn digidol ar gael am 48 awr ar ôl yr achlysur. Byddwch cystal â chyrraedd am 5.45pm ar gyfer y sesiwn Cwrdd a Chyfarch a fydd yn dechrau am 6.00pm.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.