Paratowch am brofiad unigryw a bythgofiadwy gydag arwr rygbi Cymru, Scott Quinell, wrth iddo rannu rhai o gyfrinachau rhyfeddol ei yrfa ddisglair.
Bydd Scott yn siarad yn agored ac yn onest am dyfu i fyny gyda chewri’r gêm, ei brofiad o ddysgu darllen ac ysgrifennu ar ôl ymddeol a dod yn seren y byd teledu a radio. Bydd straeon doniol yn ogystal â lluniau a delweddau o'i fywyd lliwgar sydd heb eu gweld o'r blaen - dyma gyfle i weld Scott mewn ffordd gwbl newydd.
Bydd ei fab, Steele, yn ymuno â Scott ar y llwyfan ac yn rhannu ei safbwynt ef o rai o’r straeon wrth edrych i lawr ar ei dad (yn llythrennol!). Bydd Steele hefyd yn perfformio rhai o’r caneuon gorau o sioeau cerdd!
Hefyd, bydd sesiwn holi ac ateb, felly os oes gyda chi gwestiwn i Scott neu Steele, dyma'ch cyfle chi i'w holi nhw'n dwll!
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.