WEDI'I GANSLO: The Invisible Man

Perfformiadau
- Dydd Iau 13 Hydref 2022 7:30pm
- Dydd Gwener 14 Hydref 2022 1:00pm
Yn sgil yr ansicrwydd parhaus ynghylch cyfyngiadau Covid 19, mae’r sioe yma bellach wedi’i haildrefnu ar gyfer Dydd Iau 13 a dydd Gwener 14 Hydref. Bydd y Swyddfa Docynnau yn cysylltu â phawb sydd â thocynnau i drafod opsiynau.
Gan HG Wells
Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Comedi newydd sbon wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Tunley
Cynllun gan Sean Crowley
Golau gan Robin Bainbridge
Mae Black RAT Productions nôl yn y theatrau o'r diwedd ac i ddathlu, wedi creu cynhyrchiad gwreiddiol o glasur arswyd sci-fi HG Wells.
Cymru, 1933. Mae The Invisible Man, yn serenu Claude Rains, yn dychryn cynulleidfaoedd ledled y byd.
Mae gweithlu bach Neuadd y Gweithwyr Aberllanpencwm, sy'n dyblu fel neuadd bingo a sinema, yn croesawu cynulleidfaoedd i wylio The Invisible Man. O ganlyniad i drafferthion technegol mae rhaid i weithwyr y sinema adrodd y stori eu hunain. Mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd. Ai cyd-ddigwyddiad yw'r rhain? Yntau'r dyn anweledig ei hun sy'n gyfrifol?
Mae'r cynhyrchiad newydd yma gan gast anhygoel o 4 actor a digon o gyfraniadau gan y gynulleidfa yn llawn comedi corfforol, cerddoriaeth, byrfyfyrio, hud a lledrith a rhithiau. Dyma gynhyrchiad gwreiddiol o un o glasuron HG Wells trwy arddull Black RAT.