Cliciwch yma i ddarllen y newyddion diweddaraf am Covid-19.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg

Shirley Valentine

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 23 Mawrth 2022 Celfyddydau: Achlysuron Cymraeg
Shirley Valentine

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 23 Mawrth 2022 7:00pm

Cyflwynir gan Y Consortiwm Cymraeg

gan Willy Russell

Cyfieithiad newydd i’r Gymraeg gan Manon Eames

Cyfarwyddwr Geinor Styles Cynllunydd Jacob Hughes Cynllunydd Goleuo Cara Hood

gyda Shelley Rees fel “Shirley”

Dychweliad comedi aruthrol o waith awdur Blood Brothers ac Educating Rita - ond tro yma, wedi ei pherfformio yn y Gymraeg.

Mae Cool Cymru wedi glanio ym Merthyr, ac i bobl ifanc mae bywyd o’r diwedd yn llawn cyffro, Catatonia y Stereophonics - ac alcopops.

Nid felly i Shirley druan. I Shirley, mae bywyd a chyffro yn perthyn i’r gorffennol - ac mae’r blynyddoedd treuliodd yn troedio yn ei rhigol, yn wraig tŷ difflach a di-nod, wedi rhoi tolc yn ei hyder a’i breuddwydion. Ond mae Shirley ar fin camu i fyd fydd yn trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl. Ymunwch â hi wrth iddi ffarwelio â fformeica’r gegin a’i drwco am bythefnos o wyliau yng Ngroeg : pythefnos fydd yn newid Shirley am byth.

Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm) fydd yn serennu fel Shirley Valentine yn y gomedi ddisglair yma sydd yn siŵr o godi calon a chynnal ysbryd ar ôl caledi’r cyfnod clo. Yn addas i bawb o ddysgwyr i siaradwyr rhugl. Dewch gyda ffrind, dewch gyda chriw, i fwynhau anturiaethau Shirley a hedfan gyda hi ar ei thaith annisgwyl i Baradwys - a bywyd newydd.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.