Wedi'i ad-drefnu: Milkshake! Live - Milkshake Monkey's Musical.
Achlysuron i Blant






Dydd Sul 10 Hydref
Y Colisëwm
Tocynnau - £16.00
Plant o dan 2 - £5.00
Plant 2 - 16 - £14.50
Tocyn Teulu - £56.00
Codir ffi bwcio o £2.50 am drafodion ar-lein
Mae'r achlysuron yma'n cael eu haildrefnu. Mae'r holl docynnau a gafodd eu prynu ar gyfer y dyddiad gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
Mae Milkshake Monkey ar bigau'r drain i gyflwyno'i sioe gerdd newydd sbon i chi! Ond mae ofn y llwyfan arno, felly mae ei ffrindiau'n dod i'w helpu, i greu'r sioe fwyaf syfrdanol erioed!Dewch i fod yn rhan o'r sioe – byddwch chi'n dysgu'r caneuon a'r dawnsiau gwych gyda chymeriadau Milkshake wrth i'r gerddoriaeth, y goleuadau a'r gwisgoedd gyfuno i greu profiad anhygoel. Gyda ffrindiau Milkshake, mae unrhyw beth yn bosibl.
Bydd Sam Tân, Noddy, Shimmer a Shine, Digby Dragon, Wissper, Nella the Princess Knight a'r Floogals yno hefyd, ynghyd â dau o gyflwynwyr Milkshake. Cewch chi gymaint o hwyl wrth wylio'r sioe newydd sbon yma, bydd pawb ar eu traed!
Dyma sioe wych i'r teulu cyfan - peidiwch â cholli'r cyfle i'w gweld!
Channel 5: *Bydd sioe Milkshake Live yn cynnwys 2 o Gyflwynwyr Milkshake. Mae'n bosibl y bydd Jen, Derek, Kemi, Amy, Olivia, Sita, David, Nathan a Kiera yn ymddangos mewn lleoliadau penodol yn unig. © Channel 5 Broadcasting Limited 2018. Cedwir pob hawl. © 2018 Prism Art & Design Limited. © Fizzy Productions Ltd. Cedwir pob hawl. Wissper 2 Limited / M4E. © 2015 - 2018 Universal Kids Media Productions LLC and Rightsco TV Limited © 2018 Viacom International Inc. Cedwir pob hawl. Mae Nickelodeon, Nella The Princess Knight a'r holl deitlau, logos a chymeriadau cysylltiedig yn nodau masnach Viacom International Inc. © 2018 Viacom International Inc. Cedwir pob hawl. Mae Nickelodeon, Shimmer a Shine a'r holl deitlau, logos a chymeriadau cysylltiedig yn nodau masnach Viacom International Inc. NODDY® Toyland® Noddy yn Toyland ™ © 2018 Chorion Rights Limited. Cedwir pob hawl.
Perfformiadau
- Dydd Sul 10 Hydref 2021 12:00pm 3:30pm