Wedi'i ad-drefnu: An Evening With Mal Pope
Cerddoriaeth, Amrywiaeth/Adloniant Ysgafn
Dydd Mercher 3 Tachwedd 7.30pm
Y Parc a'r Dâr
Tocynnau - £15.00
Gostyngiadau - £12.00
Codir ffi bwcio o £2.50 am drafodion ar-lein
Mae'r achlysuron yma'n cael eu haildrefnu. Mae'r holl docynnau a gafodd eu prynu ar gyfer y dyddiad gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.
Bydd y canwr/cyfansoddwr, darlledwr a chyflwynydd o Gymru, Mal Pope, yn rhannu stori ryfeddol ei yrfa pan fydd yn camu i'r llwyfan ar gyfer y noson arbennig yma.
O recordio gydag Elton John yn Abbey Road i ysgrifennu'r sioeau cerdd uchel eu clod Cappuccino Girls ac Amazing Grace, o'r blynyddoedd a dreuliwyd ar daith gydag Art Garfunkel a Belinda Carlisle i gynhyrchu ac ysgrifennu'r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm Jack to a King.
Byddwch chi'n siwr o chwerthin ar rai o straeon Mal yn ogystal â mwynhau rhai o berfformiadau y caneuon y mae e wedi'u hysgrifennu ar gyfer rhai o gewri byd cerddoriaeth fel Cliff Richard, The Hollies, Bonnie Tyler ac Aled Jones.
Perfformiadau
- Dydd Mercher 3 Tachwedd 2021 7:30pm