80s Live









Perfformiadau
- Dydd Gwener 9 Medi 2022 7:30pm
Mae'r achlysuron yma'n cael eu haildrefnu. Mae'r holl docynnau a gafodd eu prynu ar gyfer y dyddiad gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd
Y Degawd Gorau Erioed – yr 80au, yn Fyw!
Camwch yn ôl mewn amser i un o gyfnodau mwyaf eiconig cerddoriaeth a dewch i wylio band byw yn perfformio rhai o glasuron rhai o artistiaid gorau'r 80au. Dewch i wrando ar ganeuon Duran Duran, Bon Jovi, Culture Club, Madonna, Madness, The Human League, A-Ha, Tears for Fears a Wham.
P'un a gawsoch eich geni yn yr 80au, ac arfer gwrando ar y gerddoriaeth ar chwaraewr casét, neu ond wedi cael blas o fywyd yr 80au o gyfres Stranger Things, unwaith i chi weld 80s Live, bydd yn anodd anghofio'r cyfnod eiconig yma!
Gan gyfuno pop a roc meddal, mae'r sioe yn cynnwys caneuon fel Living on a Prayer, The Final Countdown, Don't You Want Me Baby, Relax, Never Gonna Give You Up, It's Raining Men, Rio, Tainted Love a rhagor.
Does dim angen DeLorean i fynd yn ôl mewn amser – dewch i weld 80s Live!